
|
|
DATGANIAD YSGRIFENEDIG GAN LYWODRAETH CYMRU
|
|
TEITL |
Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) (Diwygio) 2024 |
|
DYDDIAD |
19 Medi 2024
|
|
GAN |
Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru |
|
|
|
Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) (Diwygio) 2024
Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n cychwyn gofynion deddfwriaethol ymarferol a gweithredol Deddf Caffael 2023 (y Ddeddf). Dim ond Gweinidog y Goron sydd â phwerau cychwyn o fewn y Ddeddf. Fodd bynnag, yn unol ag adran 127(3) o'r Ddeddf, mae'n ofynnol i Lywodraeth y DU ofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru cyn cychwyn darpariaethau o fewn y Ddeddf Caffael ar gyfer Awdurdodau Datganoledig Cymru.
Diben y Rheoliadau
Bydd y Rheoliadau hyn yn pennu 24 Chwefror 2025 yn ddyddiad y bydd
darpariaethau o sylwedd y Ddeddf yn dod i rym, gan roi effaith gyfreithiol i'r drefn newydd.
Bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn dwyn i rym Adran 93 o'r Ddeddf ynghylch hysbysiadau Piblinell a byddant yn dirymu'r rheoliadau cyfredol.
Ni chaiff Gweinidog y Goron wneud rheoliadau penodedig o dan is-adran 127(2) heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.
Mae'r Rheoliadau ar gael yma: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Arbed a Throsiannol) (Diwygio) 2024
Bydd angen Rheoliadau Cychwyn ychwanegol i gychwyn darpariaethau pellach yn Neddf Caffael 2023, a bydd angen cydsyniad Gweinidogion Cymru ar gyfer y rhain hefyd.
Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ni nodwyd unrhyw faterion o'r fath.
Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru roi cydsyniad i Weinidog y Goron wneud y Rheoliadau Cychwyn hyn i bennu'r dyddiad dod i rym, gorchmynion cychwyn a threfniadau trosiannol.